Newid maint y testun Small Medium Large

Sicrhau Hyder mewn Gofal

Yn y rhan hon cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith y Cyngor Gofal a sut cawn ein rheoli.

Sefydlwyd y Cyngor Gofal dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel y sefydliad cyntaf i reoleiddio'r proffesiwn gofal cymdeithasol. Ein nod yw sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ddiogel i ymarfer; bod ganddo'r sgiliau a'r cymwysterau cywir i weithio i safonau proffesiynol uchel a'i fod yn denu'r nifer cywir o bobl i weithio er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel yn awr ac yn y dyfodol.

Nid ydym yn gweithio ar ein pen ein hunain, gan fod llwyddiant yr hyn rydym yn ei wneud yn ddibynnol ar bartneriaethau a chyfraniadau gan bobl sydd â gwir brofiad o ofal cymdeithasol. Dyna pam mae aelodau'r Cyngor Gofal, sy'n rheoli gwaith y sefydliad, yn cynrychioli nifer o safbwyntiau. Ymysg eraill, maent yn cynrychioli'r cyhoedd, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, cynhalwyr, gweithwyr, undebau llafur a chyflogwyr. Mae hyn yn sicrhau bod pob gan pob grŵp lais wrth osod safonau a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru.