Hygyrchedd
Mae Cyngor Gofal Cymru yn rheoleiddio'r proffesiwn gofal cymdeithasol a'i fwriad yw sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ddiogel i ymarfer; gyda'r sgiliau a'r cymwysterau cywir ac yn gweithio i safonau proffesiynol uchel; a'i fod yn denu nifer digonol o bobl i weithio yn y sector ac i ddarparu gofal o ansawdd yn awr ac yn y dyfodol.
Mae ein gwefan yn rhan bwysig o'r gwaith yma, ac rydym eisiau sicrhau ei fod yn cynnig gwybodaeth nid yn unig i weithwyr a chyflogwyr yn y sector ond hefyd i'r unigolion hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae felly yn bwysig bod ein safonau hygyrchedd i'r wefan yn uchel.
Drwy ein gwefan ein nod yw sicrhau bod mynediad i'n gwaith ac i'r safonau a ddisgwylir gan y proffesiwn gofal cymdeithasol ar gael i bawb. Mae'r Cyngor Gofal felly'n ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch i bawb mewn cymdeithas.
Mae'r wefan wedi cael ei dylunio'n ofalus, ac rydym wedi gosod safonau llym er mwyn sicrhau gall defnyddwyr gydag anableddau gael mynediad i wybodaeth ar y wefan, gan gynnwys defnyddwyr sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.
Rydym wedi dilyn canllawiau a osodwyd gan W3C (consortiwm y we fyd eang) i sicrhau, er enghraifft, bod côd ein gwefan yn cefnogi darllenwyr sgriniau (sef technoleg sy'n ei gwneud hi'n bosibl i'r safle gael ei 'ddarllen' ar gyfer pobl â nam ar eu golwg neu bobl ddall).
Mae maint testun safonol i wefan y Cyngor Gofal. Gallwch wneud testun y wefan yn fwy neu'n llai i weddu eich anghenion drwy glicio ar yr opsiwn 'Newid maint y testun' ar ben pob tudalen.
Mae'r wefan hefyd wedi ei dylunio i sicrhau bod pob tudalen yn gytûn ag unrhyw osodiadau personol ar gyfrifiaduron unigolion.
Mae cynnal gwefan hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn parhau i weithio i gynnig profiad o ddefnyddio'r wefan sy'n hawdd i bawb. Ble na all y Cyngor Gofal gwrdd â'r safonau uchaf o hygyrchedd ar ein gwefan, ein bwriad fydd darparu'r wybodaeth mewn ffurf hygyrch ar gais unigolyn. Os ydych chi angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol, gyrrwch e-bost atom ar gwybodaeth@cgcymru.org.uk neu ffoniwch y tîm cyfathrebu ar 0259 2078 0626.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut gellir gwneud y wefan yn fwy hygyrch, neu os ydych yn profi anawsterau, yna cysylltwch â chydlynydd y wefan ar gwybodaeth@cgcymru.org.uk.
