|
Gyrfaoedd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
Mewn amryw o ffyrdd, mae Gofal Cymdeithasol
yn galluogi plant, oedolion neu bobl hyn sydd â llawer
o wahanol anghenion i fyw bywydau diogel ac annibynnol. Mae
hynny’n golygu annibyniaeth naill ai yn eu cartrefi
eu hunain, cartrefi preswyl neu ganolfannau dydd.
Cynlluniwyd y daflen arbennig hon gan
Gyngor Gofal Cymru ar y cyd âg Arolygiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru o ganlyniad i argymhellion a wnaed gan
Grwp Gorchwyl a Gorffen oedd yn adrodd yn ôl ar Faterion
Gweithlu mewn Gofal Cymdeithasol. Ei fwriad yw rhoi cipolwg
i chi ar y cyfleoedd gyrfa sy’n bodoli yng Nghymru ar
gyfer gweithwyr gofal…gyrfa sy’n ysgogi, yn rhoi
boddhad, yn amrywiol ac yn heriol.
| Ffeithiau allweddol
am Ofal Cymdeithasol yng Nghymru
Gofal cymdeithasol yw
un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf
yng ngweithlu Cymru:
Mae gofal cymdeithasol
yn cyflogi mwy na 70,000 o bobl
Mae hynny’n gyfystyr
â 5% o weithlu Cymru
Cafwyd cynnydd o 16% yn
y gweithlu yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
Mae’r gweithlu yn
debygol o dyfu ar gyfradd o 2-3% y flwyddyn
am y pum mlynedd nesaf
|
|
|
A wyddoch chi…
... bod dros 100,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn
gofal cymdeithasol ar yr un adeg?
|
|
 |