"Byddem yn croesawu adborth
ynghylch ein gwefan
- defnyddiwch y Ffurflen Gyswllt i adael i
ni wybod pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth"
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn un o’r sectorau
sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru ac mae disgwyl i’r
twf hwn barhau yn y dyfodol. Law yn llaw â’r twf
daw amrywiaeth o gyfleoedd i bobl sy’n chwilio am yrfa
ym maes gofal cymdeithasol.
Mae deunyddiau Gwynebau Gofal yn
canolbwyntio ar brofiadau go iawn y rheiny sy’n gweithio
yn y sector gofal cymdeithasol a’r sawl sy’n
derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, yr amrywiaeth o gyfleoedd
gwaith sydd ar gael ac yn cynnig golwg fras ar y cyfleoedd
hyfforddi a chymwysterau sydd
ar gael yn y sector.
Cofiwch fod gweithio ym maes gofal cymdeithasol
yn her ond mae hefyd yn waith gwerth chweil. Yn ogystal â’r
boddhad o fod mewn gyrfa sy’n galluogi ac yn cefnogi
pobl, mae’r sector gofal cymdeithasol hefyd yn cynnig
cyfleoedd gwych a rhagolygon da o ran hyfforddi a datblygu
ac ennill cymwysterau a fydd yn eich cynorthwyo i wneud cynnydd
yn eich gyrfa.