Cyflwyniad
Mae yna ddewis helaeth o gyfleoedd gyrfa
ar gael mewn amrywiaeth eang o wahanol swyddi, ledled y sector
gofal cymdeithasol, a phob un ohonynt wedi’i anelu at
gefnogi plant ac oedolion i fod yn annibynnol ac i fyw eu
bywydau gydag urddas trwy gyfnodau anodd.
Mae’r adran hon yn rhoi cipolwg
ar y gwahanol wasanaethau sydd ar gael i ddiwallu anghenion
y bobl hynny, y gwahanol gyfleoedd gyrfa o fewn y gwasanaethau
hynny a’r sgiliau a’r nodweddion angenrheidiol
i weithio yn y sector cymdeithasol yng Nghymru.
|