Newid maint y testun Small Medium Large

Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu

Sgiliau Gofal a Datblygu (SGaD) yw’r Cyngor Sgiliau Sector (SSC) ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, plant, blynyddoedd cynnar a phobl ifanc yn y DU.

Mae SSCau’n gyrff a sefydlwyd er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu’r gweithlu mewn sectorau penodol. Cafodd Sgiliau Gofal a Datblygu drwydded SSC ym mis Chwefror 2003, ac mae yn Gynghrair o chwe sefydliad cenedlaethol sef:

  • Cyngor Gofal Cymru
  • Children’s Workforce Development Council (sy’n gweithio yn Lloegr)
  • General Social Care Council (sy’n gweithio yn Lloegr)
  • Northern Ireland Social Care Council
  • Scottish Social Services Council
  • Sgiliau Gofal (sy’n ymdrin â gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr)

Caiff y partneriaid SGaD eu cefnogi yn eu holl gydweithio gan dîm y DU sy’n gyfrifol am gydlynu a chyflwyno agenda cydlynol dydd i ddydd y SSC fel yr amlinellir yng nghynllun gweithredol y DU.

Am wybodaeth pellach cysylltwch â datblygu@cgcymru.org.uk.

Mae rhifau ffôn y tîm hefyd ar gael ar y dudalen Cysylltwch â'r timoedd drwy bwyso'r tab melyn Datblygu ac Arloesi.