Cymorth
Wrth i chi ddefnyddio gwefan Cyngor Gofal Cymru, mae'n bwysig eich bod yn gyffyrddus yn pori drwy'r tudalennau. Rydym yn awyddus bod eich profiad ar ein gwefan yn un rhwydd a'ch bod yn dod o hyd i wybodaeth ddiddorol. Mae nifer o nodweddion i'r wefan i'ch helpu i ddarganfod gwybodaeth.
Gallwch bori drwy'r wefan yn y ffyrdd canlynol:
- Y ddewislen ar y top. Ar ben pob tudalen mae botymau'r ddewislen gellir eu defnyddio i gysylltu i'r prif feysydd cynnwys ar y wefan, megis 'Cofrestru ac Ymddygiad', 'Cyhoeddiadau ac Adnoddau', neu 'Cymwysterau a Gyrfaoedd'.
Y botymau cynulleidfaoedd ar y dudalen hafan. - Ar ochr chwith yr hafan fe welwch chwe botwm ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, e.e. 'Gweithwyr Cymdeithasol', 'Gweithwyr Gofal Cymdeithasol heb eu Cofrestru' neu 'Defnyddwyr Gwasanaeth, Cynhalwyr a'r Cyhoedd'. Mae'r botymau hyn yn cyfeirio'r cynulleidfaoedd hyn i wybodaeth benodol fydd o yn berthnasol iddynt hwy.
- Y map o'r wefan. Mae hwn yn rhestru pob tudalen ar y wefan, gan ddangos sut maent yn berthnasol i'w gilydd. Drwy ennyn dealltwriaeth o strwythur y wefan fe gewch ymdeimlad mwy eglur o sut i bori drwy'r wefan, a bydd hyn yn eich galluogi i ddarganfod pynciau penodol.
Ein bwriad yw cynnig gwybodaeth ddiddorol a chynhwysfawr, fodd bynnag os ydych yn dod o hyd i gamgymeriad ar unrhyw un o'n tudalennau, cysylltwch â ni fel y gallwn ei gyweirio. Gyrrwch e-bost i weinyddwr y wefan ar gwybodaeth@cgcymru.org.uk.
