Newid maint y testun Small Medium Large

Croeso i Gyngor Gofal Cymru

Cyngor Gofal Cymru sy'n rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru ac rydym yn gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau safonau uchel ar draws y gweithlu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Gweithwyr cymdeithasol wrth eu gwaithEin Cadeirydd yw Arwel Ellis Owen a'n Prif Weithredwr yw Rhian Huws Williams. Ein nod yn y Cyngor Gofal yw sicrhau bod gan y gweithlu yng Nghymru'r sgiliau a'r cymwysterau cywir i weithio i safonau proffesiynol uchel, a'u bod yn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n ennyn hyder y cyhoedd, y bobl hynny sy'n defnyddio gwasanaethau a'u cynhalwyr.

Dweud eich dweud

Mae Cyngor Gofal Cymru yn ymgynghori ar ddiwygiadau a gynigir ar ei weithdrefnau ar gyfer ystyried honiadau am gamymddwyn a ddygir yn erbyn gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol a myfyrwyr gwaith cymdeithasol cofrestredig.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae’r Cyngor Gofal yn ceisio barnau’r rhai hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarparwyd gan y gweithwyr mae’n eu rheoleiddio.

Bydd y cynigion yn galluogi creu cytundebau posibl rhwng gweithwyr cofrestredig a’r Cyngor Gofal yn ystod camau cynnar y broses, ynghyd ag opsiynau newydd ychwanegol ar gyfer delio ag achosion drwyddi draw. Mae’r pwyslais ar wella ymarfer, codi safonau a helpu gweithwyr cofrestredig i ddatrys problemau yn y gwaith ac atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Bydd gan gyflogwyr rôl allweddol yn y gwelliannau arfaethedig, sydd â’r nod o wella diogelwch cyhoeddus wrth gynnal proses gadarn a theg.

Am fwy o wybodaeth neu gyfrannu at yr ymgynghoriad ewch i adran Eich Llais y wefan.

Sut i ddefnyddio'r wefan

Mae sawl ffordd wahanol o bori drwy'r wefan. Dewiswch un o'r botymau ar y chwith, fydd yn eich cyfeirio at wybodaeth berthnasol. Fel arall, os ydych yn gwybod am beth rydych yn chwilio, gallwch bori drwy'r prif labeli uchod. Neu gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleuster Chwilio uchod i ddod o hyd i'r hyn rydych ei angen.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y wefan, cysylltwch â Chydlynydd y wefan ar gwybodaeth@cgcymru.org.uk.