Newid maint y testun Small Medium Large

Newyddion

Logo eitem newyddion

Prif Weithredwr y Cyngor Gofal yn cael ei phenodi i Gomisiwn Newydd
18 Tachwedd 2009


Cyhoeddodd Dirprwy Weindog Gwasanaethau Cymdeithasol benodiad Prif Weithredwr y Cyngor Gofal, Rhian Huws Williams i Gomisiwn Annibynnol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y Comisiwn newydd yn edrych ar sut y gall gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol gwrdd ag anghenion poblogaeth sy'n newid yng Nghymru dros y ddeng mlynedd nesaf, yn unol â’r egwyddorion a osodwyd yn strategaeth Llywodraeth y Cynulliad, Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol.

Mae’r penodiadau’n dilyn cyhoeddiad mis Mehefin y Dirprwy Weinidog, Gwenda Thomas AC, y bydd Comisiwm yn cael ei sefydlu i ystyried sut y gall y Llywodraeth wneud gwasanaethau’n gynhwysol ac integredig, tra eu bod yn cefnogi datblygu ymarferwyr.

Mae penodiadau eraill i’r Comisiwn yn cynnwys Julie Jones, Prif Weithredwr y Social Care Institute for Excellence a’r Athro Geoffrey Pearson, Athro Emeritus Troseddeg, Coleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, fydd yn Cadeirio’r Comisiwn.

Meddai'r Dirprwy Weinidog:"Mae’n arbennig o bwysig i mi bod lleisiau defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr yn ganolog i waith y Comisiwn a byddaf yn sicrhau bod trefnidau addas mewn lle i wneud yn siwr bod hyn yn digwydd.

"Mae’r Comisiwn yn gyfle i bawb ohonom gyfrannu at lunio cyfeiriad y gwasanethau hynod o bwysig hyn. Rwy’n gwybod am y pwysigrwydd rydyn ni i gyd yn ei roi i wasanethau cymdeithasol a hoffwn annog i’m cydweithwyr gymryd pob cyfle i leisio barn a helpu llunio dyfodol gwasnaethau cymdeithasol."

Disgwylir adroddiad ar gasgliadau y Comisiwn ym mis Tachwedd 2010.