Newid maint y testun Small Medium Large

Digwyddiadau

Event icon

Cynhadledd Flynyddol Dysgu Anabledd Cymru – ‘Teimlo’n Dda, Aros yn Iach’
18 Tachwedd 2009 – 19 Tachwedd 2009

Lleoliad: Casnewydd, Holiday Inn
Trefnydd: Dysgu Anabledd Cymru

Learning disability walesBydd y gynhadledd flynyddol eleni’n edrych ar iechyd a lles plant ac oedlion gydag anableddau dysgu; gan edrych ar wasanaethau, mentrau a phrosiectau sy’ ar gael; tynnu sylw at enghreifftiau o ymarfer da mewn hyrwyddo iechyd a lles a chodi pryderon unigolion.

Bydd y gynhadledd yn ysbrydoli a pharatoi unigolion i wneud newid cadarnhaol i’w bywydau er gwell. Bydd hi hefyd yn tynnu sylw ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau at faterion y mae unigolion ag anableddau dysgu yn eu hwybebu.

Amcanion y Gynhadledd

  • Rhoi cyfleon i bobl ag anableddau dysgu ystyried beth sy’n bwysig iddynt parthed eu hiechyd a lles
  • Codi ymwybyddiaeth o rychwant y mentrau a phrosiectau, y rhai sydd eisoes ar gael ac sy’ eisiau, er mwyn cynyddu iechyd a lles pobl ag anableddau dysgu
  • Ysbrydoli a pharatoi pobl ag anableddau dysgu, ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu.

Trefn y Gynhadledd

Bydd y gynhaledd hon yn cynnwys prif siaradwyr, gweithdai a chelf perfformio. Bydd hygyrchedd pobl ag anableddau dysgu ar frig yr agenda ym mhob agwedd o’r gynhadledd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rebecca Watkins ar 029 2068 1160 neu ebost rebecca.watkins@learningdisabilitywales.org.uk

Teimlo’n Dda, Aros yn Iach