Newid maint y testun Small Medium Large

Digwyddiadau

Event icon

Cynhadledd Heneiddio'n Dda yng Nghymru
28 Ionawr 2010 – 28 Ionawr 2010

Lleoliad: Gwesty Copthorne, Caerdydd
Trefnydd: Age Concern Cymru

acclogoblue

Anelir y gynhadledd hon at wasanaethau sy’n darparu gweithredoedd hybu iechyd a gwybodaeth am bobl hŷn, yng nghyd-destun yr hinsawdd ariannol a wleidyddol bresennol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar werth gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth cyfoedion. Bydd sawl un o’r mynychwyr o’r sector iechyd ac yn gweithio’n agos gydag ystod eang o staff gofal cymdeithasol.

Bydd Ruth Geuter, Cofrestrydd Cyngor Gofal Cymru, yn rhoi cyflwyniad ar yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r Codau Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Mae Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn gweithio mewn sawl cyd-destun gwahanol ac mae eu Côd yn gosod werthoedd a sut y dylent weithio gyda phobl. Bydd Ruth yn trafod yr ystod o ddeunyddiau sydd ar gael i alluogi ac annog pobl i ddefnyddio a hyrwyddo’r Codau’n graidd i bob gweithiwr gofal cymdeithasol. Yn ogystal â chyflwyno’r Codau a deunyddiau’r ymgyrch, bydd gan y mynychwyr gyfle i siarad am sut y gallem annog defnydd a pherchnogaeth o’r Codau a chymryd rhan yn yr ymgyrch.

Bydd sesiynau llawn hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan Graham Williams ar y Fframwaith Gwasnaethau Cymunedol i Bobl Hŷn ac un gan Bob Laventure am gyfleon a buddion gweithgareddau corfforol i bobl hŷn. Bydd sesiynau gweithdai’n annog mynychwyr i chwilio rhychwant o bynciau gan gynnwys archwilio adnoddau cymunedol lleol, darparu gweithgareddau heneiddio’n iach lleol i bobl hŷn ac ystyried cydraddoldeb mewn hybu iechyd i bobl hŷn.

Am wybodaeth bellach neu i sicrhau lle yn y digwyddiad, cysylltwch â Richard Jones ar 029 2043 1553 neu ebostiwch richard.jones@accymru.org.uk