Newid maint y testun
Gallwch chwilio'r adran yma drwy ddefnyddio gair allweddol neu chwilio fesul blwyddyn.
Rhestr digwyddiadau diweddaraf
Would you like to make a real difference to someone’s life? Visit our stand at the Eisteddfod to discover whether you’re suited to a career in social work! There will be something for everyone – interactive activities, a digital graffiti wall and competitions to win iPods, – and much, much more ...
Bydd y cynadleddau hyn yn rhad ac am ddim ac yn gyfle i ddysgu am enghreifftiau o arfer da mewn lleoliadau gofal. Byddan nhw hefyd yn tynnu sylw at rai o’r anawsterau sydd wedu codi, yn enwedig wrth benderfynu ar brif fuddiannau.
Tiroedd Newydd mewn Gofalu: 2010 a thu hwnt - Gan adeiladu ar lwyddiant y pedwerydd Gynhadledd Ryngwladol yn Toronti, mae Carers UK a Phrifysgol Leeds yn falch i'ch gwahodd i'r pumed Cynhadledd Ryngwladol Gofalwyr. Mae'r gynhadledd yn dod â'r gymuned ryngwladol o ymchwilwyr, ymarferwyr a'r rhai sydd gyda diddordeb mewn gofalu ynghyd i ddadlau'r materion allweddol a chyfnewid profiad. Gan fapio fframwaith polisi ledled y byd, bydd y gynhadledd yn chwilio arloesiad i gael datrysiadau go iawn i'r wasgfa ariannol
Gweithdy rhyngweithiol gyda seicotherapydd sy'n enwog yn rhyngwladol - Jim Wilson - yn cynnwys 'ymgynghoriadau byw'. Bydd y gweithdy yn berthnasol i bob person proffesiynol sy'n gweithiwr gyda plant mewn gofal - gweithwyr cymdeithasol, therapists, gweithwyr troseddwyr ifainc, addysgwyr a gweithwyr iechyd.
Wrth adeiladau ar lwyddiant Cynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol 2009, mae ADSS Cymru a WLGA yn falch i gynnal Cynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol 2010.
Cyngor Gofal Cymru yn ymuno â dathliadau llwyddiant galwedigaethol! Mae’r Cyngor Gofal yn cefnogi Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol 2010 drwy gynnal digwyddiad yng Nghaerdydd ac mae’n awyddus i chi ymuno yn y dathlu.
Mae Wythnos Gofal Cymdeithasol yn gyfle i ganolbwyntio ar y gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol sy’n cefnogi mwy na 150,000 o bobl bob dydd yma yng Nghymru. Tua 88,000 o weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal sy’n darparu’r gwasanaethau hyn, ond yn aml iawn mae’r gwaith hwn yn digwydd heb ddenu unrhyw sylw. Mae’r gwaith o gefnogi unigolion a theuluoedd gydag amrywiaeth o anghenion yng Nghymru’n dibynnu ar weithlu proffesiynol, diogel a medrus, sy’n haeddu cydnabyddiaeth!
Hyfforddi'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol - Cymhorthion a mentrau recriwtio. Bydd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ddatblygiadau a chynnydd y Fframwaith Cymwysterau a Chredyd newydd a sut bydd y cymwysterau newydd yn effeithio ar gyflogwyr, darparwyr hyfforddi a dysgwyr y sector Gofal Cymdeithasol.
Dymuna Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin wahodd nifer o gyflogwyr lleol i weithio mewn partneriaeth er mwyn bod yn rhan o arddangosfa’r cyflogwyr yn ystod y ffair/gynhadledd. Ein nod yw rhoi cyfle i gyflogwyr lleol hyrwyddo cyfleoedd gyrfaol ar gyfer graddedigion a myfyrwyr ôl 18 o fewn eu sefydliadau/sector.
Ar gyfer gweithwyr cymdeithasol plant newydd-gymhwyso, neu'r rheiny sydd a diffyg profiad, ynglŷn a'r broses o gynllunio gofal drwy weithdrefnau gofal.