Newyddion
Cyhoeddi Cadeirydd newydd y Cyngor Gofal
30 Gorffennaf 2009
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, wedi cyhoeddi penodiad Arwel Ellis Owen fel Cadeirydd newydd y Cyngor Gofal
Penodwyd Mr Owen, o Gaerdydd, yn dilyn cystadleuaeth agored.
Cyhoeddwyd hefyd gan y Gweinidog bod Roger Gant o Aberhonddu wedi ei benodi'n aelod Cyngor i gynrychioli safbwynt cyflogwyr y sector gwirfoddol.
