Newid maint y testun Small Medium Large

Newyddion

Logo eitem newyddion

Cyngor Gofal Cymru yn croesawu adroddiadau diogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru
20 Hydref 2009

Mae’r Cyngor Gofal Cymru wedi croesawu cyhoeddi’r adroddiadau heddiw (20 Hydref) sy’n rhoi trosolwg o’r camau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu ac amddiffyn plant yng Nghymru.

Ac mae’r Cyngor Gofal hefyd wedi tynnu sylw at bwysigwrydd y radd gwaith cymdeithasol a hyfforddi ychwanegol i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru, a ddarperir drwy bartneriaeth gref rhwng colegau a chyflogwyr. Mewn sawl rhan o Gymru mae’r partneriaethau wedi arwain at recriwtio gwell o weithwyr cymdeithasol ac wedi galluogi cyflogwyr i ddylanwadu ar hyfforddi’n uniongyrchol ac i wneud yn siwr ei fod yn cwrdd a’u hanghenion.

Wrth ymateb i adroddiad heddiw gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, meddai Rhian Huws Williams, Prifweithredwr Cyngor Gofal Cymru: "Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi adeiladu ar lwyddiannau’r cyrsiau gradd i wneyd yn siwr bod gwybodaeth well i gynllunio at y dyfodol, yn ogystal ag hyfforddiant ansawdd uchel cyn ac ar ôl i weithwyr cymdeithasol gymwhyso, er mwyn cwrdd ag anghenion y gweithle. Rydym hefyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol newydd-gymwysedig yn cael eu cefnogi er mwyn iddyn nhw weithio’n ddiogel ac yn effeithiol".

Ymysg mentrau’r Cyngor Gofal i helpu diogelu plant mae:

  • Astudiaeth dymor-hir o weithwyr cymdeithasol newydd-gymwysedig, sy’n helpu asesu pa mor drylwyr maen nhw wedi’u paratoi at eu rolau ac unrhyw faesydd lle bo angen dod i’r afael â nhw yn eu hyfforddi.
  • Prosiect peilot i ddiffinio’n well rolau a chyfrifoldebau gweithwyr cymdeithasol i blant a’r cymwysterau sy’n addas i’w rolau, yn enwedig mewn perthynas i Dimau Cefnogi Teuluoedd Integredig newydd i deuluoedd lle mae plant mewn risg ac mae gan eu rhieni hanes o gamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl.
  • Model i gaslgu gwybodaeth y gweithlu am hyfforddi gwaith cymdeithasol er mwyn helpu cyflogwyr wybod sawl gweithiwr cymdeithasol cymwysedig sy’ angen ac i’r sefydliadau addysg uwch wybod sawl un ddylai gael eu hyfforddi.
  • Adolgyiad o ddysgu gofal plant ar y radd gwaith cymdeithasol ac argymhellion fydd yn cael eu hystyried gan y Bartneriaeth Strategol Genedlaethol i Hyfforddi Gwaith Cymdeithasol.
    Datblygu, gyda chyflogwyr, gyfleon dysgu ôl-gofrestru i weithywr cymdeithasol cymwysedig sy’n gweithio mewn gwasanaethau plant a theuluoedd;
  • Cyfarwyddyd ar y flwyddyn gyntaf mewn ymarfer i weithwyr cymdeithasol newydd-gymwysedig a’u cyflogwyr.