Newid maint y testun Small Medium Large

Archif newyddion

Ar y dudalen hon mae ein archif newyddion a datganiadau rhwng 2007 a 2009.

Gallwch chwilio'r adran yma drwy ddefnyddio gair allweddol o'r teitl neu chwilio fesul blwyddyn.

Chwilio'r archif

Rhestr newyddion diweddaraf

Logo eitem newyddion

Cyngor Gofal Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 27 Gorffennaf 2010

Unwaith eto bydd Cyngor Gofal Cymru yn bresennol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.

Logo eitem newyddion

Mae'r Cyngor Gofal yn Croesawu Cyhoeddiad y Papur Gwyn 7 Gorffennaf 2010

Mae’r Cyngor Gofal wedi croesawu bwriad y Dirprwy Weinidog i gynhyrchu Papur Gwyn ar ddyfodol gwasanaethau cymdeithasol.

Logo eitem newyddion

Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi Papur Gwyn ynghylch dyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 5 Gorffennaf 2010

Cyhoeddodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, ei bwriad i baratoi Papur Gwyn ynghylch dyfodol gwasanaethau cymdeithasol, ddechrau 2011.

Logo eitem newyddion

Enillwyr cystadleuaeth Wal Graffiti Ddigidol 5 Gorffennaf 2010

Mae’r Cyngor Gofal yn falch iawn cyhoeddi enillydd a dau ail-oreuon yn ein cystadleuaeth Wal Graffiti Ddigidol o Eisteddfod yr Urdd eleni. Gofynnwyd i ymgeiswyr ddangos beth mae gofal yn ei feddwl iddyn nhw, drwy luniau a/neu eiriau. Dehongliad a dychymyg y lluniau wnaeth argraff ar ein staff yn y Cyngor Gofal a chawson nhw ddewis anodd i ddethol y tri gorau allan o 400 o ymgeisiadau.

Logo eitem newyddion

Gweithiwr Cymdeithasol yn Derbyn Gorchymyn Atal Dwy Flynedd 2 Gorffennaf 2010

Mae gweithiwr cymdeithasol cofrestredig, a gyflogwyd gynt gan Gyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent, wedi derbyn Gorchymyn Atal dwy flynedd ar ôl cyfaddef methiannau wrth ei waith o ddiogelu plant.

Logo eitem newyddion

Cynhelir Gwrandawiad Pwyllgor Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Yng Nghaerdydd 11 Mai 2010

Cynhelir gwrandawiad gan Bwyllgor Ymddygiad Cyngor Gofal Cymru yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, 18 Mai i ystyried honiadau o gamymddwyn yn erbyn y gweithiwr gofal cymdeithasol.

Logo eitem newyddion

CYNHELIR GWRANDAWIAD PWYLLGOR YMDDYGIAD GOFAL CYMDEITHASOL YNG NGHAERDYDD 13 Ebrill 2010

Cynhelir gwrandawiad gan Bwyllgor Ymddygiad Cyngor Gofal Cymru yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher, 21 Ebrill i ystyried honiadau o gamymddwyn yn erbyn y gweithiwr preswyl plant cofrestredig.

Logo eitem newyddion

Gweithwraig Gymdeithasol yn Cael ei Cheryddu am Gamymddwyn 5 Chwefror 2010

Mae gweithwraig gymdeithasol gofrestredig sy’n cael ei chyflogi gan asiantaeth o dan gerydd am dair blynedd ar ôl i Bwyllgor Ymddygiad y Cyngor Gofal ei chael hi’n euog o gamymddwyn ar ôl iddi roi tystiolaeth a oedd yn anghywir neu’n gamarweiniol mewn achos amddiffyn plant yn Llys Sirol Caerdydd.

Logo eitem newyddion

Ceryddir Gweithiwr Gofal Cymdeithasol o Wrecsam am Gamymddygiad 21 Rhagfyr 2009

Mae gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig sy’n gyflogedig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael ei cheryddu am chwe mis ar ôl cyfaddef iddi roi defnyddiwr gwasanaethau mewn risg posibl drwy fethu â dilyn polisïau a gweithdrefnau.

Logo eitem newyddion

“Diolch yn fawr am gynnal diwrnod gwych. Dw i wir wedi mwynhau’r cyfle i wrando ar gynifer o brosiectau diddorol.” 9 Rhagfyr 2009

Ychydig o'r adborth o'r ddau ddigwyddiad Rhannu Ymarfer Da Gwobrau Gofal Cymdeithasol – ‘Ymarfer Gwerth ei Rannu’. Thema’r ddau ddigwyddiad cyntaf oedd Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau a Chynhalwyr. Roedd digwyddiad mis Hydref yn canolbwyntio ar weithio gyda phlant, ac un mis Tachwedd yn ymdrin â’r rhai sy’n gweithio gydag oedolion. Roedd y ddau ddigwyddiad yn llwyddiannus, gyda negeseuon cadarnhaol gan fynychwyr a chyflwynwyr. Yn ôl yr adborth roedd mynychwyr y ddau ddiwrnod yn meddwl ei bod hi'n ddefnyddiol iawn cael cyfle i adlewyrchu a rhwydweithio, ynghyd â dathlu llwyddiannau.