Newid maint y testun Small Medium Large

Newyddion

Gwenda Thomas Deputy Minister for Social Services/ Gwenda Thomas y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol

Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi cofrestru gorfodol ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal oedolion yng Nghymru
1 Gorffennaf 2009

Heddiw (1 Gorffennaf), cyhoeddodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol, ei chynlluniau i roi cam nesaf y broses cofrestru gorfodol ar waith ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru er budd diogelu’r cyhoedd.


Bydd cofrestru’n orfodol i reolwyr cartrefi gofal preswyl oedolion erbyn 1 Gorffennaf 2010 ac i reolwyr y sector gofal cartref erbyn 1 Gorffennaf 2012. Cyngor Gofal Cymru fydd yn gyfrifol am weithredu’r cofrestru gorfodol.

Cafodd gweithwyr cymdeithasol, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a rheolwyr a staff cartrefi preswyl i blant eu cynnwys yng nghamau blaenorol cofrestru gorfodol.

Nododd y Dirprwy Weinidog ei bwriad i symud i’r cam cofrestru nesaf i ystyried y gweithlu gofal cymdeithasol sy’n weddill mewn cartrefi gofal ac mewn lleoliadau gofal cartref.

Meddai Gwenda Thomas:

"Rwy’n falch o gael cyhoeddi’r estyniad hwn ar gofrestru gorfodol i reolwyr y sectorau gofal cymdeithasol preswyl a gofal cartref i oedolion. Mae hyn yn gam pwysig yn ein polisi i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu gweithlu cymwys o safon uchel ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

"Rydym yn cydnabod y newidiadau ym mhatrymau gwasanaethau a’r angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio’n agosach gyda’i gilydd. Mae angen rhagor o dystiolaeth i benderfynu ar yr amserlenni cyrhaeddiad addysgol ac asesu effaith cofrestru gorfodol ar bob gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn pennu’r dull gweithredu mwyaf priodol er mwyn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas."

Croesawyd cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog gan Mutale Merrill, Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, a dywedodd:

"Bydd y datblygiad hynod gadarnhaol hwn yn atgyfnerthu’n hymdrechion i sicrhau arferion diogel ymysg y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, a’i fod yn gweithio i’r safonau uchaf o ran proffesiynoldeb. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r sector gofal cymdeithasol a Llywodraeth y Cynulliad i roi’r cam nesaf ar waith i gryfhau hyder y cyhoedd yn y gweithlu.

"Rydym eisoes wedi gweld o gofrestru gorfodol ar gyfer rheolwyr a gweithwyr gofal preswyl i blant y bydd cam o’r fath yn cynnig llawer o fanteision. Bydd yn helpu i godi safonau, a bydd yn golygu y gallwn gasglu gwybodaeth hanfodol am y gweithlu sy’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau y caiff y gwasanaethau gorau posibl eu darparu i’r bobl sydd eu hangen fwyaf."

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru gasglu rhagor o dystiolaeth i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch rheoleiddio pob gweithiwr gofal cymdeithasol rheng flaen.

Bydd Cyngor Gofal Cymru’n cyhoeddi hysbysiadau manwl pellach a’r camau nesaf.

DIWEDD