Gwobrau Gofal Cymdeithasol
Amser i ddisgleirio...
Efallai mai chi fydd yn disgleirio yn 2011!
Bydd pecynnau cais ar gyfer Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2011 ar gael yn fuan iawn. Mae'r Gwobrau'n parhau i gynnig cyfle i dimau, grwpiau a sefydliadau ddisgleirio drwy gydnabod arfer da a buddsoddiad mewn dysgu a datblygu ym maes gofal cymdeithasol.
Categorïau 2011 yw:
- Recriwtio a Chadw Gweithwyr yn Effeithiol
- Dysgu gyda'n gilydd
- Cynnal annibyniaeth
- Cefnogi ymyrraeth effeithiol gyda phlant a'u teuluoedd
- Gyrfa i'w dewis
- Dylanwad defnyddwyr a chynhalwyr ar ffurf gwasanaethau
- Gweithwyr cymdeithasol yfory
- Gwella darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
- Cefnogi unigolion o gefndir du ac ethnig lleiafrifol
A yw prosiect eich sefydliad, tîm neu bartneriaeth yn haeddu cael sylw? Neu a wyddoch chi am rywun sy'n haeddu cael sylw? Cadwch lygad yma i ddarganfod mwy!
Dyddiadau pwysig i'r dyddiadur
- 4 Chwefror 2011: dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
- 23 Mehefin 2011: seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd
