Gyrfaoedd a Llwybrau Gyrfa
Llyfrynnau Gyrfaoedd newydd
Ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol?
Mae Llyfrynnau Gyrfaoedd ffres, hawdd i’w darllen wedi’w creu ar eich cyfer i’ch helpu wneud penderfyniadau gyrfa holl bwysig.
Ar y Ffordd: ‘Swydd werth gofalu amdani’ ffilmiau gyrfa ar gyfer pobl ifanc
Mae nifer o weithwyr gofal ifanc o ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn prosiect cyffrous, ble cafwyd eu ffilmio yn ymgymryd a’u gwaith dyddiol ac yna yn sgwrsio gyda’r criw camera am beth y maent yn ei fwynhau fwyaf am eu swyddi. Mae’r clipiau yn rhoi mewnwelediad gwych i’r swyddi gwahanol sydd ar gael ac yn dangos pa mor wobrwyol yw gweithio mewn gofal.
Edrychwch yma am newyddion pellach ar pryd bydd y ffilmiau yn mynd yn fyw.
Gofalu am eich Gyrfa
- Ydych chi’n hoffi gwneud rhywbeth gwahanol a llawn her bob dydd?
- Ydych chi’n wrandäwr da ac yn mwynhau helpu pobl eraill?
- Ydych chi’n unigolyn sensitif, gofalgar ac ystyriol?
Os ‘ydw’, gall gyrfa mewn gwaith gofal neu gwaith cymdeithasol fod yn addas i chi.
Mae'r ddau yn golygu cefnogi pobl ar adegau anodd yn eu bywyd, er enghraifft pan fyddent yn cael anawsterau ymdopi gyda newidiadau yn eu sefyllfa deuluol, neu eu hiechyd corfforol neu feddyliol. Gall hyn olygu fod y gwaith yn un heriol ar adegau, ond yn werth chweil yn y pen draw.
Gyda 150,000 o bobl yn derbyn rhyw fath o wasanaeth gofal yng Nghymru ar unrhyw adeg, mae'n rhaid sicrhau fod gweithlu digonol a medrus yn bodoli i ddarparu'r ystod eang o wasanaethau sydd eu hangen. Ein bwriad yw sicrhau fod y gweithlu yma'n rhannu ein brwdfrydedd i roi defnyddwyr gwasanaeth wrth galon yr agenda ac i sicrhau fod gan y rhai bregus yn ein cymunedau'r gefnogaeth berthnasol i drawsnewid eu bywydau am y gorau.
Os yr ydych yn gwerthfawrogi eraill, hefo diddordeb mewn sicrhau eu bod yn medru byw yn annibynnol a gydag urddas, yna gall gwaith gofal fod yn yrfa ddelfrydol i chwi.
Os yr ydych yn berson amyneddgar, sensitif, ystyriol ac aeddfed sy'n hawdd i'w ymddiried ynddo, sy'n dda am asesu sefyllfaoedd a sy'n gallu ymdopi'n dda mewn argyfwng, yna gall gwaith cymdeithasol fod yn yrfa ddelfrydol i chwi.
Cewch lawer mwy o wybodaeth am ddewisiadau gyrfa yn y maes gwaith gofal ar gael ar weddill ein tudalennau gyrfaoedd, ac mae gennym lyfrynnau gyrfaoedd newydd ar gael - gwnewch eich dewis o'r blwch ar y dde i lawrlwytho y llyfrynnau.
Llyfrynnau Gyrfaoedd
Gwaith Cymdeithasol - Proffesiwn Pobl
Gofal Cymdeithasol - Cyfle Gyrfa Ardderchog
Ar gael yn fuan:
Swydd werth gofalu amdani
(clipiau ffilm i bobl ifanc)
