Gwaith cymdeithasol fel gyrfa
Beth mae’r gwaith yn ei olygu
Eich prif amcan fel Gweithiwr Cymdeithasol fyddai helpu pobl i asesu eu hanghenion iddynt allu dod o hyd i atebion fyddai’n gwella eu bywydau ac yn rhoi dewisiadau iddynt. Gallech weithio gyda phobl hyn, plant, pobl ifanc, troseddwyr, pobl gydag anawsterau dysgu, problemau iechyd meddwl, neu anableddau corfforol neu bobl sy’n camddefnyddio sylweddau.
Bydd rhan o’r broses o helpu pobl i reoli eu bywydau yn golygu ffurfio perthynas gydag amrywiaeth eang o bobl gan gychwyn gyda’r unigolyn ei hun a’i deulu a’r sawl sy’n gofalu amdano. Bydd gwneud hyn yn golygu goresgyn rhwystrau cyfathrebu fel gwahaniaethau iaith, anabledd ac anawsterau emosiynol. Mae angen rhoi pwyslais ar alluogi pobl i fynegi eu teimladau a lleisio barn ac ymarfer eu hawliau lle bo hynny’n briodol. Rhoddir y cymorth hwn weithiau ar adeg pan fo bywyd yn anodd iawn i’r unigolyn dan sylw.
Wrth asesu anghenion pobl a dod o hyd i atebion, byddwch yn eu helpu i fod mor annibynnol ag y bo modd. Gallai eich gwaith gynnwys eu gwarchod rhag risgiau y byddant yn eu hwynebu tra bod y cymorth hwn yn cael ei roi. Gallai olygu gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd, addysg, tai a chyflogaeth, yr heddlu yn ogystal â phobl eraill o fewn eich sefydliad fel staff cymorth a therapyddion galwedigaethol.
Wrth weithio gyda’r bobl allweddol hyn, byddwch yn ymwneud â llunio cynlluniau ar gyfer unigolion ac adolygu’r sefyllfa yn gyson er mwyn sicrhau fod anghenion yr unigolyn yn cael eu bodloni.
Sut fath o berson sydd ei angen?
Cyrsiau sydd wedi eu Cymeradwyo
Mae'r radd Gwaith Cymdeithasol yn gael ei cynnig gan y Prifysgolion canlynol yng Nghymru :
(wedi rhyddfreinio o UWIC)
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC)
Mae cwrs Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol wedi'i gymeradwyo yng Nghymru yn cael eu gynnig gan:
Mae gwybodaeth ar gyfer cyrsiau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i'w canfod ar wefannau y Cynghorau rheoleiddio Gofal Cymdeithasol priodol
