Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC)
Beth yw Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol?
Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) yn disgrifio arfer gorau gan ddod â sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd ynghyd. Mae SGC yn offeryn gwerthfawr i’w ddefnyddio fel meincnodau ar gyfer cymwysterau yn ogystal â diffinio rolau yn y gwaith, recriwtio staff, goruchwylio a gwerthuso.
Mae’r holl bartneriaid cynghrair o fewn Sgiliau Gofal a Datblygu a Sgiliau Iechyd yn berchen ar y cyd ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cynhelir unrhyw adolygiadau o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar y cyd gan holl bartneriaid cynghrair y DU.
