Newid maint y testun Small Medium Large

Cymwysterau

Mae'r Cyngor Gofal Cymru yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y fframwaith o gymwysterau ar gyfer y gweithlu cymdeithasol ac yn dynodi'r cymwysterau angenrheidiol ac argymelledig ar gyfer swyddi sy'n cael eu rheoleiddio gan Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau, Strategaeth Gweithlu'r Plant, Strategaeth Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar a'r Cynllun Gweithredu Gweithlu i gyflawni Bywydau Bodlon Cymunedau Cefnogol.

Mae'r gwaith yma yn cael ei oruchwylio gan ein Pwyllgor Datblygu'r Gweithlu ac ein Grŵp Adolygu Fframwaith Cymwysterau a Grŵp Safonau Galwedigaethol.

Fframwaith Cymwysterau

Rhan arall o waith y Cyngor Gofal yw Fframwaith Cymwysterau’r Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru i gynorthwyo’r nod o sicrhau y gall plant ac oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol ddibynnu ar weithlu sydd wedi’i hyfforddi’n gywir, sydd â’r cymwysterau priodol ac sydd wedi’i reoleiddio’n effeithiol.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru

Newydd ar y wefan: Gorffennaf 2010

Bydd y prosiect newydd hwn sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gofal Cymru yn helpu i ganfod pa mor gymwys yw’r gweithlu gofal cymdeithasol trwy ddatblygu a hyrwyddo achredu dysgu yn y gwaith.

Hyfforddiant Ol Gymhwyso (OG)

Unwaith fod gweithwyr cymdeithasol yn gymwys mae disgwyl iddynt gadw ac ymestyn eu gwybodaeth a'u sgiliau, ac un ffordd o wneud hyn yw i ymgymryd a cwrs Ol Gymhwyso sydd wedi'i cymeradwyo gan y Cyngor Gofal.

Rheoleiddio Hyfforddiant

Mae Cyngor Gofal Cymru yn gyfrifol am reoleiddio hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol ar lefel Cymhwyso ac Ôl-Gymhwysol ac yn gweithredu sustem sicrhau ansawdd ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol a Cyrsiau Ôl-Gymhwysol mewn Gwaith Cymdeithasol.

Fframwaith Sefydlu

Gellir defnyddio’r Fframwaith Sefydlu fel offer i reolwyr archwilio sgiliau, gwybodaeth a phrofiad staff newydd, a bydd yn helpu i nodi eu hanghenion datblygu.

Setiau Gwybodaeth

Mae Cyngor Gofal Cymru wedi lansio dau gyhoeddiad newydd i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl hŷn sy'n dioddef o ddementia a'r rheiny sy'n agosáu at ddiwedd eu bywydau.