Newid maint y testun Small Medium Large

Setiau Gwybodaeth

Mae Cyngor Gofal Cymru wedi lansio dau gyhoeddiad newydd i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl hŷn. Mae’r cyhoeddiadau, neu’r setiau gwybodaeth, wedi eu cynhyrchu’n benodol ar gais yr ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl hŷn mewn gofal preswyl a nyrsio. Dymunent ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau sylfaenol er mwyn bod yn hyderus eu bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl hŷn sy’n dioddef o ddementia a’r rheiny sy’n agosáu at ddiwedd eu bywydau.

Yng Nghymru, rhagwelir y bydd nifer y bobl rhwng 65 ac 84 oed yn cynyddu 24% erbyn 2018. Mae disgwyl i’r rheiny sydd dros 85 oed gynyddu 29% erbyn 2018, gyda thraean ohonynt yn debygol o fod angen gofal 24 awr.

Offer ymarferol sydd wedi’u hanelu at gyflogwyr, hyfforddwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol yw’r setiau gwybodaeth. Yn ogystal â darparu gwybodaeth ddiffiniol ar ofal pobl hŷn, mae’n bosibl eu defnyddio nhw fel cymhorthion hyfforddi, er mwyn cynnig y cyfeiriadau sydd eu hangen ar weithwyr i ganfod gwybodaeth bellach a loglyfrau i’w cwblhau wrth iddynt ddysgu dulliau newydd o weithio. Bydd y gwaith a gofnodir yn y loglyfrau hefyd yn cyfrannu at ennill cymwysterau i weithwyr gofal cymdeithasol.