Newid maint y testun Small Medium Large

Hyfforddiant Ôl Gymhwyso

Unwaith mae gweithwyr cymdeithasol wedi cymhwyso, mae disgwyl iddynt ehangu eu gwybodaeth a sgiliau, ac un ffordd o wneud hyn yw trwy cwblhau cwrs ôl gymhwyso wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Gofal.

Mae ystyriaeth wedi cael ei rhoi yn yr adolygiad o hyfforddiant gwaith cymdeithasol yn arwain at y radd, i’r angen i adolygu'r fframwaith Ôl gymhwyso a chwblhaodd y gwaith yma gyda chyhoeddiad y rheolau am gymeradwyo cyrsiau OG yn 2007. Dechreuodd cyrsiau o fewn y fframwaith yma yn 2008.

Yn gytûn gyda’r rheolau yma, mae Cyngor Gofal Cymru wedi cymeradwyo cyrsiau ôl-gymhwyso mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yng Nghymru.

Mae'r tudalen nesaf yn rhoi manylion pellach a gwybodaeth cefndir am Ofynion Cwrs Penodedig a Enwir ar gyfer cyrsiau ôl gymhwyso sydd ar gael ar hyn o bryd.