Fframwaith Cymwysterau
Mae’r Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn gosod allan y cymwysterau sy’n berthnasol i’r sector ac yn cael eu defnyddio ganddo. Cafodd y Fframwaith ei gyhoeddi gyntaf ym mis Awst 2001 ar ôl datblygu ac ymgynghori helaeth dros gyfnod o bron i 2 flynedd. Mae’r Fframwaith wedi adeiladu ar restr Cymwysterau a Gymeradwywyd Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a nodwyd ar gyfer swyddi gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol o fewn sefydliadau gwasanaeth sy'n cael eu hariannu gan y Llywodraeth.
Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yw’r prif gymwysterau a enwir ar gyfer swyddi penodol yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol. Cymwysterau seiliedig ar gymhwysedd yw’r rhain y gall pobl o bob oed eu hastudio. Maent yn helpu pobl i ddysgu tasgau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith a deall beth sydd ei angen i gyflawni swydd yn effeithiol.
Mae cymwysterau NVQ wedi’u seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol , sy’n datgan beth ddylai person cymwys mewn swydd ei wybod a’i wneud. Maent yn cael eu hasesu yn y gweithle gan aseswyr cymwys wedi’u hyfforddi. Mae cymwysterau NVQ yn dangos bod unigolyn yn gallu defnyddio gwybodaeth a gwerthoedd yn ei waith, yn gallu gwneud tasgau’n fedrus ac felly’n brawf o gymhwysedd cyffredinol. Mae hyn yn bwysig wrth weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.
Newidiadau i’r cymwysterau
Rhwng nawr a diwedd 2010, mae cymwysterau newydd yn cael eu datblygu a fydd yn disodli’r cymwysterau galwedigaethol cyfredol yn y pen draw. Fodd bynnag, bydd cymwysterau NVQ yn parhau i fod yn gymwysterau dilys sy’n cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhain gweler yr adran Fframwaith Credydau a Chymwysterau ar y wefan.
Lleoliadau Gwasanaeth
Gwasanaethau Preswyl i Oedolion
Gwasanaethau Preswyl i Blant a Phobl Ifanc
Gwasanaethau Dydd i Blant a Theuluoedd, Canolfannau Gofal i Deuluoedd
Gwasanaethau Cartref Cymunedol i Oedolion a Phlant
Gwasanaethau Cymunedol i Oedolion
Gwasanaethau Meithrin a Mabwysiadu (O dan adolygiad
Gwasanaethau Cymunedol i Blant a Phobl Ifanc
Lleoliadau Ysbytai a Chlinigau
Rheolaeth Ganolog a Gwasanaethau Cynnal
Fframwaith Cymwysterau
Rhagair gan Gadeirydd y Cyngor Gofal Cymru
Cyflwyniad i'r Fframwaith Cymwysterau
Datblygiad y Fframwaith Cymwysterau
Defnydd a Strwythur y Fframwaith
Grŵp Adolygu’r Fframwaith Cymwysterau (GAFfC) / Grŵp Safonau Galwedigaethol (GSG)
Meini Prawf ar gyfer Cefnogi Cymhwyster Galwedigaethol-Gysylltiedig
Mannau Cyswllt Cyrff Gosod Safonau ar gyfer Galwedigaethau sydd wedi eu Rhestru
Fframwaith MSDA, Prentisiaethau Modern a Thystysgrifau Technegol
Rhestr o Dalfyriadau Cymwysterau
