Newid maint y testun Small Medium Large

Ariannu Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer

Cyfraniad at dreuliau lleoliadau mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn mynd iddynt fel rhan annatod o'u hyfforddiant cymhwyso yw'r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer.

Bydd gan bob derbynnydd o Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol hawl i Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (LCDY) cychwynnol am bob lleoliad. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn derbyn y LCDY am unrhyw flwyddyn mae'n cyflawni cyfle dysgu ymarfer.

Bydd myfyrwyr sydd wedi defnyddio'u lwfans cychwynnol mewn unrhyw flwyddyn benodol yn gallu hawlio ad-daliad o gost gymwys sy'n fwy na'r lwfans cychwynnol. I wneud hyn, mae'n rhaid i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth bod y lwfans cychwynnol wedi cael ei wario ar gostau cyfle dysgu ymarfer cymwys, a chyflwyno tystiolaeth o'r costau ychwanegol. Mae'r costau cymwys yn cynnwys costau teithio cyhoeddus neu breifat, costau parcio neu gostau llety.

C: Beth yw swm y LCDY fyddai yn ei dderbyn?

O'r flwyddyn academaidd 2010/11 ymlaen, bydd yr LCDY cychwynnol myfyrwyr newydd yn ddibynnol ar faint/lefel y lleoliad.

C: Sut dwi’n neud cais am ad-daliad o gostau sy’n ychwanegol i’r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer cychwynnol?

A: I gychwyn, mae angen i’r ymgeiswyr anfon i mewn Ffurflen Cychwynnol i ddangos bod y lwfans wedi’i wario fel y dylai.

I wneud cais am gostau Teithio sy’n ychwanegol i’r lwfans cychwynnol, mae angen i’r ymgeiswyr gwblhau ac anfon i fewn Ffurflen Hawlio Costau Teithio. Bydd y cais yn cael ei hasesu ac fe fyddwch yn derbyn e-bost o fewn 28 diwrnod gwaith bydd yn eich hysbysu os yw’r cais yn ddilys a phryd bydd y taliad yn cael ei wneud.

Mae’r holl ddogfennau yn ymwneud a’r LCDY i’w darganfod ar ochr dde’r dudalen hon.

C: Sut byddai’n derbyn y taliad?

A: Bydd yr LCDY cychwynnol yn cael ei gynnwys gyda rhandaliad cyntaf y Fwrsariaeth.

Bydd taliadau sy’n ychwanegol i’r lwfans cychwynnol yn cael eu talu i mewn i gyfrif banc yr ymgeiswyr o fewn 28 diwrnod gwaith o’r Tîm Ariannu Myfyrwyr yn derbyn y Ffurflen Hawlio Costau Teithio cywir.

Noder bod y Cynllun Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer yn y broses o gael ei adolygu ac mae'r dogfennau ar y dde yn benodol ar gyfer y rhai sy'n astudio yn y flwyddyn academaidd 2009/10 yn unig.