Canllaw i weithwyr a gyfeirir i'r Cyngor Gofal
Pa gamau bydd y Cyngor Gofal yn eu cymryd?
Mae’r Cyngor Gofal yn ymchwilio i faterion a wnelont ag ymddygiad gweithiwr cymdeithasol cofrestredig, gweithiwr gofal cymdeithasol neu fyfyriwr gwaith cymdeithasol cofrestredig sy’n cwestiynu’u haddasrwydd i aros ar y gofrestr.
Wrth ymgymryd ag ymchwiliadau, gall y Cyngor Gofal gael gafael ar ddogfennau a chanlyniadau disgyblu gan gyflogwr, tystysgrifau euogfarnau, adroddiadau meddygol, datganiadau tystion, a gall archwilio dogfennau perthnasol fel cofnodion achosion, taflenni amser a chofnodion treuliau.
Yn dilyn asesiad risg cychwynnol i benderfynu a oes unrhyw faterion a allai effeithio ar ddiogelu’r cyhoedd, mae’r Swyddog Ymchwilio yn ysgrifennu adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor Achosion Cychwynnol (PAC).
Gall y Cyngor Gofal argymell bod Gorchymyn Atal Interim yn cael ei roi ar unigolyn cofrestredig pan fydd yn teimlo bod cam o’r fath yn angenrheidiol i ddiogelu aelodau’r cyhoedd neu fel arall er budd y cyhoedd neu er budd yr unigolyn cofrestredig. Golyga Gorchymyn Atal Interim na all yr unigolyn cofrestredig barhau i ymarfer tra bydd y Gorchymyn mewn grym a thra bydd ymchwilio pellach ar droed.
Bydd y PAC yn ystyried yr adroddiad a’r dystiolaeth fydd ynghlwm wrtho ac yn penderfynu a ddylid cau’r mater, ymchwilio ymhellach iddo neu ei gyfeirio at Wrandawiad Pwyllgor Ymddygiad neu Bwyllgor Iechyd. Gall y Pwyllgor hefyd benderfynu atal unigolyn cofrestredig dros dro oddi ar y Gofrestr tra bydd yr ymchwiliad i’r achos ar droed, drwy osod Gorchymyn Atal Interim. Mae’r Pwyllgor yn eistedd yn breifat.
Os bydd y mater wedi ei ohirio ar gyfer ymchwilio pellach, dyna’r pwynt y cwblheir ymchwiliad annibynnol. Cyflwynir adroddiad a thystiolaeth ynghlwm wrtho i Bwyllgor Achosion Cychwynnol 2 a fydd yn ystyried a oedd rhagolwg rhesymol o ganfod camymddwyn.
