Canllaw i weithwyr a gyfeirir i'r Cyngor Gofal
Cynrychioli’r unigolyn cofrestredig
Gall yr unigolyn cofrestredig gael ei gynrychioli mewn PAC os ystyrir gosod Gorchymyn Atal Interim. Gallant gael eu cynrychioli mewn Pwyllgor Ymddygiad neu Bwyllgor Iechyd gan fargyfreithiwr, cyfreithiwr, cynrychiolydd eu Hundeb Llafur, cynrychiolydd eu Corff Proffesiynol neu, os ydyw’n fyfyriwr, gynrychiolydd corff myfyrwyr.
Os na chynrychiolir yr unigolyn cofrestredig, gallant ddod â chynrychiolydd arall gyda hwy a chael cyngor ganddo.
