Newid maint y testun Small Medium Large

Canllaw i weithwyr a gyfeirir i'r Cyngor Gofal

Beth sy’n digwydd ar derfyn gwrandawiad Ymddygiad?

Ar derfyn y gwrandawiad, bydd gan y panel Ymddygiad dair cosb wahanol y gallant eu gosod.

Cerydd sy’n rhybudd a osodir ar gofnod am hyd at bum mlynedd. Gall yr unigolyn cofrestredig ddal i weithio fel gweithiwr cymdeithasol, myfyriwr gwaith cymdeithasol neu weithiwr gofal cymdeithasol tra bydd y Cerydd yn ei le. Bydd unrhyw gyflogwr neu aelod o’r cyhoedd sy’n cysylltu â’r Cyngor Gofal i wirio cofrestriad yr unigolyn yn cael gwybod am y Cerydd

Gorchymyn Atal Interim sy’n tynnu’r unigolyn cofrestredig oddi ar y Gofrestr am gyfnod penodol (hyd at uchafswm o ddwy flynedd), ac yn ei atal rhag gweithio fel gweithiwr cymdeithasol, myfyriwr gwaith cymdeithasol neu weithiwr gofal cymdeithasol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, caiff enw’r unigolyn cofrestredig ei adfer ar y Gofrestr yn awtomatig

Gorchymyn Dileu sy’n golygu tynnu enw’r unigolyn cofrestredig oddi ar y Gofrestr, ac felly’n atal yr unigolyn cofrestredig rhag gweithio fel gweithiwr cymdeithasol, myfyriwr gwaith cymdeithasol neu weithiwr gofal cymdeithasol. Ni chaiff enw’r unigolyn cofrestredig ei adfer ar y Gofrestr oni bai bod y Pwyllgor Adfer yn penderfynu bod hynny’n briodol yn dilyn gwneud cais ar ddyddiad yn y dyfodol

Apeliadau

Mae gan yr unigolyn cofrestredig yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad gan PAC Cyngor Gofal Cymru, Pwyllgor Ymddygiad neu Bwyllgor Iechyd at y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Safonau Gofal).