Canllaw i weithwyr a gyfeirir i'r Cyngor Gofal
Mae’r tudalennau hyn yn egluro sut mae’r Cyngor Gofal yn ymdrin â chwynion a phryderon am weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yr ydym wedi cael ein hysbysu amdanynt.
Pryd y gall y Cyngor Gofal gymryd camau?
Mae gan y Cyngor Gofal ddyletswydd i ymchwilio i gwynion am gamymddwyn honedig a wneir yn erbyn gweithwyr cymdeithasol cofrestredig, myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yr honnir nad ydynt yn cwrdd â’r safonau a osodir ger bron yn y Cod Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol.
Ystyr camymddwyn yw ymddygiad a allai godi amheuon am addasrwydd yr unigolyn cofrestredig i aros ar y Gofrestr.
Gall y Cyngor Gofal gymryd camau pan gaiff y wybodaeth hon, a cheir proses ar gyfer ymchwilio i wybodaeth a gosod cosbau ar y sawl y codir amheuon am eu haddasrwydd i aros ar y Gofrestr a gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys atal unigolion cofrestredig dros dro a’u tynnu oddi ar y Gofrestr.
Gellir gweld manylion llawn y broses ymddygiad yn y Rheolau Ymddygiad.
