Newid maint y testun Small Medium Large

Cofrestru ac Ymddygiad

Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth i’r gweithlu gofal cymdeithasol am y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a’r prosesau ymchwilio ac ymddygiad.

Mae gwybodaeth yma am gofrestru, sut i wneud cais i gofrestru, ffioedd, dileu gwirfoddol oddi ar y Gofrestr a cheisiadau i ailymuno â’r Gofrestr. Unwaith rydych wedi cofrestru, gallwch weld eich manylion cofrestru a’u diwygio ar-lein.

Mae gwybodaeth yma hefyd am eich ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r Côd Ymarfer ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol, 'Hyder mewn Gofal'. Gallwch gael gafael ar gopïau o ddeunyddiau hyrwyddo a gwybodaeth am ein hymgyrch ynghyd â chopïau o’r Codau mewn gwahanol fformatau.

Beth sy’n newydd?

27 Awst 2010

Newyddion Cofrestru – Yr ail mewn cyfres o e-ffeithlenni ar gyfer cyflogwyr. Dylai pob cyflogwr gymryd amser i ddarllen y Newyddion Cofrestru diweddaraf, mae’n cynnwys gwybodaeth newydd sy’n berthnasol i bob cyflogwr, rheolwr a llofnodwr ynglyn â datblygiad y broses cofrestru.

Gweithwyr Preswyl Gofal Plant - cofrestrodd hanner y gweithwyr preswyl gofal plant ar sail Ymsefydlu. Rydych wedi eich cofnodi ar y Gofrestr fel bod â ‘gofyniad hyfforddi’ ynghlwm wrth eich adnewyddiad. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gwblhau’r NVQ gofynnol ar gyfer eich swydd cyn eich dyddiad adnewyddu. Mewn sawl achos bydd y Rheoliadau Gwasanaeth wedi mynnu eich bod eisoes wedi cwblhau eich NVQ.

Dylai’r rhai sy’n cyflogi gweithwyr preswyl gofal plant nodi bod rhaid i rai sy’n cofrestru nad ydynt wedi cyflwyno eu tystysgrif NVQ eto anfon copi o’r dystysgrif, wedi’i llofnodi gan eu rheolwr, at y Cyngor Gofal.

Nid oes angen aros nes daw’n amser adnewyddu cyn anfon copi o’ch tystysgrif. Unwaith i ni ei derbyn byddwn yn diweddaru eich cofnod cofrestru i ddangos eich bod wedi bodloni’r gofyniad hyfforddi. Os na dderbynnir tystysgrif gymhwyster wedi’i dilysu cyn eich dyddiad adnewyddu, gyda’ch ffurflen adnewyddu ar yr hwyraf, yna ni fyddwch yn gymwys i adnewyddu eich cofrestriad.

Dyddiadau i'w cofio - mae’r Cynulliad wedi cyhoeddi dyddiadau pan ddaw yn orfodol i reolwyr gofal preswyl i oedolion (1 Hydref 2010) a rheolwyr gwasanaethau gofal cartref (1 Hydref 2012) gofrestru.

Cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol - yn cael ei diweddaru bob dydd. Dyma'r ffigyrau misol diweddaraf am yr unigolion wedi'u cofrestru ym mhob categori.