Newid maint y testun Small Medium Large

Defnyddwyr gwasanaeth, cynhalwyr a'r cyhoedd

Defnyddwyr gwasanaeth, cynhalwyr a’r cyhoedd
Cewch wybodaeth yma am y Cyngor Gofal a’r hyn yr ydym yn ei wneud. Ein rôl, fel y rheoleiddiwr gweithlu gofal cymdeithasol yw hyrwyddo a sicrhau safonau uchel ar draws y gwasanaethau cymdeithasol a’r gweithlu gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cyflwyno’r gwasanaethau gorau posibl.

Ein nod yw codi safonau ar draws y sector gofal cymdeithasol a sicrhau bod y math cywir o bobl yn gweithio ac yn cael eu recriwtio i’r gweithlu. I wneud hyn, rydym yn edrych beth yw’r anghenion ar gyfer y dyfodol, ac yn benodol, pa fath o weithlu sydd ei angen i fodloni gofynion poblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru.

Yn yr adran hon fe gewch wybodaeth ynglŷn â sut i gael mewnbwn i'n gwaith, naill ai trwy ymgynghoriadau, neu drwy roi adborth ynglŷn â’r hyn a wnawn, neu wybodaeth ynglŷn â sut i fynychu un o’n cyfarfodydd Cyngor. Gallwch hefyd weld ein ‘Strategaeth Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth a Chynhalwyr’ sy’n amlinellu sut gall defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr gymryd rhan yn ein gwaith.

Yma hefyd, cewch wybodaeth am ein hymgyrch Hyder mewn Gofal i godi ymwybyddiaeth am y Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Mae’r Codau yn hanfodol bwysig i unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, eu cynhalwyr, neu unrhyw un sy’n adnabod rhywun sy’n derbyn gofal, gan eu bod yn amlinellu’r safonau ymddygiad y gallwch eu disgwyl oddi wrth eich gweithiwr cymdeithasol neu’ch gweithiwr gofal cymdeithasol.

Gobeithio y dowch o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano. Gallwch ddefnyddio'r botymau ar y chwith i ddarganfod gwybodaeth sy'n berthnasol i chi.