Gwybodaeth defnyddiol
Gweithwyr Cymdeithasol
Fel gweithiwr cymdeithasol, rhaid i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gofal i weithio yng Nghymru, a rhaid i chi gytuno i gadw at y Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
O'r adran hon, cewch eich cyfeirio at wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais i gofrestru, ffïoedd, cael eich enw wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr yn wirfoddol a cheisiadau i adnewyddu cofrestriad. Hefyd, os ydych chi eisoes wedi cofrestru, gallwch weld eich manylion a’u diwygio ar-lein, yn ogystal â thalu eich ffi flynyddol ar-lein. Gallwch hefyd weld gwybodaeth am y broses ymddygiad a’r gwrandawiadau ymddygiad sydd ar fin digwydd.
Mae’r Codau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr a Chyflogwyr Gofal Cymdeithasol yn ganolog i’n holl waith. Oddi yma, cewch wybodaeth am Hyder mewn Gofal, ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth am y Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, a sut i archebu copïau o’r Codau yn ogystal â deunyddiau a gwybodaeth hyrwyddol am yr ymgyrch.
Yn ogystal â chynnal Cofrestr, mae'r Cyngor Gofal yn datblygu cymwysterau sy'n addas ar gyfer y rôl gwaith cymdeithasol, ac o'r adran hon, cewch wybodaeth ynglŷn â chymwysterau a gyrfaoedd. Mae'r Cyngor Gofal hefyd yn ystyried anghenion poblogaeth Cymru ar gyfer y dyfodol, a sut bydd hyn yn effeithio ar waith cymdeithasol fel proffesiwn.
Gobeithio y dowch o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano. Gallwch ddefnyddio'r botymau ar y chwith i ddarganfod gwybodaeth sy'n berthnasol i chi.
