Newid maint y testun Small Medium Large

Gwybodaeth defnyddiol

Telerau ac Amodau

Diolch am gyrchu gwefan Cyngor Gofal Cymru.

Darllenwch yr amodau a’r telerau hyn cyn defnyddio’r wefan, a weithredir gan Gyngor Gofal Cymru ("y Cyngor Gofal", "ein", "ni" neu "rydym ni"), sy’n Gorff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Wrth ddefnyddio ein safle rydych chi, y defnyddiwr ("Chi") yn derbyn ein Hamodau a Thelerau.

Cynhelir gwefan y Cyngor Gofal a’i safleoedd cysylltiedig er mwyn i chi allu eu darllen a’u defnyddio. Trwy gyrchu a defnyddio’r safle, rydych chi’n derbyn yr Amodau a Thelerau hyn, sy’n gymwys o’r dyddiad y’i cyrchwyd hi’n gyntaf.

Ymwrthodiad

Diben y deunydd sydd ar y wefan yw darparu gwybodaeth gyffredinol yn unig. Er bod pob ymdrech wedi cael ei wneud i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn gywir, nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol nac unrhyw gyngor proffesiynol arall.

Felly, mae’r Cyngor Gofal yn ymwrthod rhag pob atebolrwydd a chyfrifoldeb a ddaw wrth i unrhyw un sy’n ymweld â’r wefan ddibynnu ar wybodaeth neu ddeunydd o’r fath.

Nid yw’r Cyngor Gofal yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dudalennau y cyfeiriwyd atynt trwy ddolen allanol.

Diben y gwefannau neu’r tudalennau y ceir dolen iddynt o’r wefan yw darparu gwybodaeth yn unig ac nid ydynt wedi cael eu hadolygu na’u hardystio gan y Cyngor Gofal. Ni all y Cyngor Gofal sicrhau y bydd dolenni’r wefan yn gweithio ar bob adeg ac nid oes gan y Cyngor Gofal unrhyw reolaeth dros hygyrchedd y tudalennau cysylltiedig. Nid yw’r Cyngor Gofal yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau na’r tudalennau y ceir dolen iddynt o’r wefan hon, ac nid yw’r Cyngor Gofal yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw golledion na dyledion a allai godi yn sgil clicio ar ddolenni i wefannau cysylltiedig.

Eiddo Deallusol

Mae’r holl enwau, lluniau a logos sy’n gysylltiedig â’r Cyngor Gofal yn farciau perchnogol i’r Cyngor Gofal. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti a gyrchir trwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan y perchennog hawlfraint perthnasol.

Dylai ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio’n logo gael eu cyfeirio at y tîm Cyfathrebu trwy’r manylion cyswllt isod.

Hysbysiad hawlfraint

Hawlfraint y Cyngor Gofal yw’r wybodaeth a welir ar y wefan hon, oni nodir yn wahanol. Gallwch chi ailddefnyddio’r wybodaeth sydd ar y wefan hon am ddim mewn unrhyw fformat. Mae ailddefnyddio’n cynnwys copïo, dosbarthu copïau i’r cyhoedd, cyhoeddi, darlledu a chyfieithu i ieithoedd eraill. Mae hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil ac astudio anfasnachol. Rhaid ailddefnyddio’n unol â’r amodau canlynol. Rhaid i chi:

  • gydnabod y ffynhonnell a’n hawlfraint pan fyddwch chi’n darparu’r wybodaeth i eraill
  • ailgynhyrchu’r wybodaeth yn gywir
  • peidio â defnyddio’r wybodaeth mewn ffordd gamarweiniol
  • peidio â defnyddio’r wybodaeth yn bennaf at ddibenion hysbysebu neu hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth penodol.

Nid yw’r caniatâd i lawrlwytho ac ailgynhyrchu cynnwys yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ar y wefan lle mae’r hawlfraint yn eiddo i drydydd parti. Rhaid cael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw cyn ailgynhyrchu deunydd o’r fath.

Gellir gweld mwy o ganllawiau ar ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus: www.opsi.gov.uk

Nodwch os gwelwch yn dda nad oes tâl am ailddefnyddio’r wybodaeth hon, cyn belled â’i bod yn cael ei hailddefnyddio’n unol â’r amodau uchod. Pe byddid yn mynd yn groes i un o’r amodau a nodwyd uchod wrth ailddefnyddio’r wybodaeth hon, dylid gwneud cais ysgrifenedig am ganiatâd i’w hailddefnyddio. Bydd y Cyngor Gofal yn ystyried y cais yn ofalus. Cyfeiriwch geisiadau ysgrifenedig at y Rheolwr Cyfathrebu (cyfeiriad isod).

Os hoffech chi wneud cwyn am achos o ailddefnyddio gwybodaeth oddi ar wefan y Cyngor Gofal, dilynwch drefn gwyno’r Cyngor Gofal ar y dudalen ganlynol (dolen i’r drefn gwyno).

Hyperddolennu

Nid oes angen i chi ofyn am ein caniatâd yma i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau sy’n cael eu gwelet ar y safle hwn. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi roi dolen uniongyrchol i’r wybodaeth ar ein safle. Ond, nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho mewn fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau gwe’r Cyngor Gofal lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Os hoffai perchnogion pyrth gynnwys tudalennau gwe Cyngor Gofal o fewn safleoedd porth, cysylltwch â’r Cydgysylltydd Gwefan a Mewnrwyd ar y cyfeiriad isod. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt - eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost, a disgrifiad o’ch safle porth.

Defnyddio

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau unrhyw drydydd parti, nac yn cyfyngu ar allu unrhyw drydydd parti i ddefnyddio a mwynhau’r wefan hon, na’i rwystro rhag gwneud hynny. Bydd amod neu waharddiad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad anghyfreithlon, neu ymddygiad a allai aflonyddu ar rywun, neu achosi gofid neu anhwylustod iddo, trosglwyddo cynnwys aflan neu sarhaus neu darfu ar y llif sgwrsio arferol sydd ar y wefan hon.

Gwaherddir trosglwyddo unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difenwol, aflan, sarhaus neu dramgwyddus trwy’r wefan hon.

Ni chaniateir camddefnyddio’r wefan hon trwy gyflwyno, yn fwriadol, firysau, ceffylau Caerdroea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol i’r dechnoleg. Ni chaniateir ceisio cael mynediad heb awdurdod i’r wefan neu’r gweinydd y caiff ei storio arno ac ni chaniateir ymosod ar ein gwefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig.

Cyfyngiad Rhwymedigaeth

Rydych chi’n cydnabod eich bod yn defnyddio’r wefan a’i chynnwys ar eich menter eich hun. Os nad ydych chi’n fodlon â’r wefan, y Telerau neu unrhyw ran o’r cynnwys, yr unig ateb yw peidio â defnyddio’r wefan mwyach. Ar wahân i achosion o dwyll ac anafiadau personol neu farwolaeth sy’n cael eu hachosi gan esgeulustod y Cyngor Gofal, ni fydd y Cyngor Gofal yn atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw niwed uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol, ôl-ddilynol neu gysylltiedig (gan gynnwys colli elw), neu unrhyw niwed arall o unrhyw fath, p’un a yw’n seiliedig ar gontract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, hyd yn oed os yw’r Cyngor Gofal wedi cael ei rybuddio y gallai hyn ddigwydd.

Nid yw’r Cyngor Gofal yn derbyn unrhyw atebolrwydd am fethu â chydymffurfio â’r Telerau hyn lle daw’r methiannau yn sgil amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud ein gorau i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Peth doeth bob amser fyddai rhedeg rhaglen gwrthfirysau ar unrhyw ddeunydd a lwythwyd i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol, neu unrhyw achos o darfu arnynt, yn sgil defnyddio deunydd neu lawrlwytho neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd a ddaw o wefan y Cyngor Gofal.

Ni fydd y Cyngor Gofal yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig a ddaw yn sgil eich defnydd o’r wefan ac nid yw’n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol, neu achos o darfu arnynt, a allai ddigwydd yn sgil eich defnydd o’r wefan.

Terfynu

Os byddwch chi’n torri unrhyw un o’r Telerau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’r wefan yn cael ei therfynu’n awtomatig.

Newidiadau i’r wefan

Gallai’r wefan gynnwys hen ddeunydd ar unrhyw adeg. Rydych chi’n derbyn bod gan y Cyngor Gofal yr hawl i newid cynnwys neu fanylebau technegol unrhyw agwedd ar y wefan ar unrhyw adeg yn ôl ei ddisgresiwn, er nad oes ganddo ddyletswydd i wneud hynny. Rydych chi hefyd yn derbyn y gallai newidiadau o’r fath olygu na fyddwch chi’n gallu cyrchu’r wefan.

Ildio Hawl

Ni fydd y ffaith fod y Cyngor Gofal yn hepgor toriad unrhyw ddyletswydd sy’n deillio o’r Telerau hyn yn golygu bod unrhyw doriad arall yn cael ei hepgor, ac ni fydd y ffaith bod y Cyngor Gofal yn methu â gweithredu unrhyw gamau adfer, neu ond yn cymryd rhai camau adfer, yn golygu ei fod yn ildio unrhyw hawl ar ôl hynny i weithredu’r camau neu i gymryd unrhyw gamau adfer eraill.

Cyffredinol

Ni fydd gan unigolyn nad yw’n barti yn y Telerau hyn unrhyw hawl o dan Ddeddf Contract (Hawliau Trydydd Parti) 1999 i orfodi unrhyw un o’r Telerau hyn.

Os canfyddir bod unrhyw ran o’r Telerau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n amhosibl ei gorfodi am ba bynnag reswm, bydd y rhan annilys, anghyfreithlon neu amhosib ei gorfodi’n cael ei dileu a bydd y Telerau sydd ar ôl yn parhau i fod mewn grym yn llawn.

Polisi Preifatrwydd

Gweler ein polisi preifatrwydd.

Hysbysiad cyfreithiol

Llywodraethir a dehonglir y Telerau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr (fel y cânt eu rhoi ar waith yng Nghymru). Bydd unrhyw ddadl o ran y Telerau hyn yn cael ei ddatrys o dan awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn am y Telerau hyn neu am y wefan, cysylltwch â ni trwy unrhyw un o’r ffyrdd a restrir isod:

E-bost:

info@ccwales.org.uk

Llythyr:

Cyngor Gofal Cymru
Tŷ South Gate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW

Ffôn:

029 2022 6257

Ffacs:

029 2938 4764

Minicom:

029 2978 0680

<< nôl i'r brig