Canmoliaeth, Pryder a Chwyno
Polisi Cwyno
Nod Cyngor Gofal Cymru (y Cyngor Gofal) yw darparu'r gwasanaeth gorau posib ym mhob agwedd ar ei waith a'i weithgarwch. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd adegau pan fydd defnyddwyr gwasanaethau neu'r bobl hynny sy'n dod i gysylltiad â'r Cyngor Gofal yn teimlo nad ydynt wedi cael eu trin cystal ag y dylent.
Os bydd hyn yn digwydd, mae'r Cyngor Gofal am wybod a chael cyfle i wneud pethau'n iawn. Mae'r Polisi hwn a'r weithdrefn gysylltiedig yn nodi sut y gellir gwneud cwyn a sut bydd y Cyngor Gofal yn ymateb.
Dylid llenwi’r ffurflen cwyno os ydych yn anfodlon gydag unrhyw wasanaeth a ddarparwyd gan y Cyngor Gofal a’ch bod am gael ymchwiliad pellach i’r gŵyn. Dychwelwch y ffurflen cwyno at:
Kate Salter
Swyddog Cwynion
Cyngor Gofal Cymru
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Ar yn ail, gallwch gysylltu â Kate Salter (Swyddog Cwyno) ar 029 2078 0636 neu kate.salter@ccwales.org.uk
