Eich Llais Chi
Mae'r adran hon yn newydd i wefan y Cyngor Gofal ac mae'n cynnig cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth, cynhalwyr a'r cyhoedd i gael mewnbwn i'n gwaith. Gallai hyn fod drwy gyfrannu i ymgynghoriadau neu roi adborth i ni am ein gwaith.
Gan fod y rhan yma'n newydd, fe fydd yn tyfu dros amser, a hoffem glywed gennych chi pa fath o wybodaeth hoffech ei weld neu sut rydych yn dymuno cymryd rhan.
Fel sefydliad, rydym yn ymroddedig i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr yn ganolog i'n holl agenda. Gallwch gael gwybodaeth yma ar sut ydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr i siapio ein gwaith a chlywed am sut maent yn dylanwadu ar drefn llywodraethol y sefydliad.
